Cronfa Gweithredu Hinsawdd – Eich Ffurflen Gais

| Resume a previously saved form
Resume Later

In order to be able to resume this form later, please enter your email and choose a password.

Diolch am eich diddordeb yn y Gronfa Gweithredu Hinsawdd
Cyflwyniad
Mae’r cyllid hwn yn ceisio helpu cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Rydym yn chwilio am brosiectau lle bydd cymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i leihau effaith newid hinsawdd a rhannu’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu â’i gilydd.

Gwiriwr cymhwystra

(Cam 1 o 1)

Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen am y rhaglen ar ein gwefan.
Os bydd eich prosiect yn cael ei gynnal mewn mwy nag un wlad (Lloegr, Yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon), bydd angen i chi ddangos sut y mae cymunedau wedi llywio eich syniad.
Os eich ateb yw ‘ydy’, ticiwch y blwch uchod i gadarnhau. Byddwn ni’n gofyn i weld tystiolaeth o hyn yn eich ffurflen. Os eich ateb yw ‘nac ydy’, mae’n flin gennym, nid yw’r rhaglen ariannu hon yn iawn i chi.*
Hoffem i’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu ystyried y llun ehangach yn ogystal â’r gymuned a’r unigolion sydd ynghlwm yn y prosiect.

Os eich ateb yw ‘ydy’, ticiwch y blwch uchod i gadarnhau. Byddwn ni’n gofyn i weld tystiolaeth o hyn yn eich ffurflen. Os eich ateb yw ‘na’, mae’n flin gennym, nid yw’r rhaglen ariannu hon yn iawn i chi.*
Mae hyn yn cynnwys dangos effaith eich gwaith ar yr hinsawdd.

Os eich ateb yw ‘oes’, ticiwch y blwch uchod i gadarnhau. Byddwn ni’n gofyn i weld tystiolaeth o hyn yn eich ffurflen. Os eich ateb yw ‘nac oes’, mae’n flin gennym, nid yw’r rhaglen ariannu hon yn iawn i chi.*
Hoffem i’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu weithio â mentrau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Os eich ateb yw ‘ydyn’, ticiwch y blwch uchod i gadarnhau. Byddwn ni’n gofyn i weld tystiolaeth o hyn yn eich ffurflen. Os eich ateb yw na, mae’n flin gennym, nid yw’r rhaglen ariannu hon yn iawn i chi.*
Os eich ateb yw ‘ydy’, ticiwch y blwch uchod i gadarnhau. Byddwn ni’n gofyn i weld tystiolaeth o hyn yn eich ffurflen. Os eich ateb yw na, mae’n flin gennym, nid yw’r rhaglen ariannu hon yn iawn i chi.*
Hoffem i’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu fod yn gynhwysol a mynd i’r afael â rhwystrau cyfranogi.

Os eich ateb yw ‘ydyn’, ticiwch y blwch uchod i gadarnhau. Byddwn ni’n gofyn i weld tystiolaeth o hyn yn eich ffurflen. Os eich ateb yw na, mae’n flin gennym, nid yw’r rhaglen ariannu hon yn iawn i chi.*
Gwych! Rydych chi’n gymwys i ymgeisio ar gyfer y cyllid hwn

Nawr gallwch chi gwblhau ein ffurflen.
Cadw eich ffurflen gais
Gallwch gadw eich ffurflen:
  • os nad oes amser gennych i’w chwblhau mewn un tro 
  • os oes angen i chi ddod o hyd i ddogfennau neu ragor o wybodaeth cyn i chi barhau. 
Sut i gadw eich ffurflen gais fel y gallwch barhau i’w chwblhau yn nes ymlaen
  1. Ticiwch y blwch ‘Cadw fy nghynnydd a pharhau yn nes ymlaen’ ar frig y dudalen
  2. Cwblhewch eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair 
  3. Defnyddiwch y botwm ‘Cadw’ i gadw 
  4. Bydd tudalen newydd yn ymddangos sy’n rhoi’r opsiwn i chi ‘Barhau â’r ffurflen hon nawr’ neu ‘Ddechrau ffurflen newydd’
  5. Gallwch gadw’r dudalen fel nod tudalen a dod yn ôl yn nes ymlaen
  6. Byddwn ni hefyd yn anfon e-bost atoch gyda dolen fel y gallwch chi fynd yn ôl at y ffurflen yn nes ymlaen
Sut i barhau i gwblhau ffurflen gais yr ydych wedi’i chadw’n barod
  1. I barhau i gwblhau eich ffurflen gais:
             a. ewch i’r dudalen ‘ailgydio â’ch ffurflen’ os ydych wedi’i chadw fel nod tudalen.                 Yna dilynwch y ddolen ar frig y dudalen sy’n dweud ‘Ailgydio â ffurflen a                           gadwyd yn flaenorol’
             b. agorwch yr e-bost a anfonwyd atoch pan wnaethoch chi gadw eich cais a                       dilynwch y ddolen 
  2. Yna nodwch eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair 
  3. Bydd hyn yn eich dychwelyd i’ch ffurflen gais, felly gallwch chi barhau i’w chwblhau
Gallwch gadw a dychwelyd i’ch ffurflen cymaint o weithiau ag y mae angen i chi ei wneud. 

Mae’r eitemau sydd wedi’u marcio â seren (*) yn ofynnol, a dim ond os ydych chi’n eu cwblhau y gallwch chi gyflwyno’r ffurflen gais hon.
Os oes angen cymorth arnoch â’r ffurflen
Os oes cwestiynau gennych am y wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani yn y ffurflen hon, neu os ydych chi’n cael trafferth ei chyflwyno, gallwch anfon e-bost at cymru@cronfagymunedolylg.org.uk

Gallwch hefyd ein ffonio ar 0345 4102 030 – mae’r llinellau ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9am-5pm. Gofynnwch am dîm y Gronfa Gweithredu Hinsawdd.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen
Mae’n bosibl y byddwn ni’n cysylltu â chi i ofyn cwestiynau pellach am eich sefydliad a’ch prosiect, a’r hyn rydych yn gobeithio ei wneud gyda’r cyllid hwn. Byddwn ni’n defnyddio’r holl wybodaeth a ddarperir gennych i wneud penderfyniad am ariannu eich syniad.
Ein bwriad yw dweud wrthych os ydych wedi cyrraedd y cam nesaf o fewn deufis o’r dyddiad cau i geisiadau.
Cadw copi o’ch ffurflen gais ar gyfer eich cofnodion
Cyn i chi gwblhau’r ffurflen gais, byddwch chi’n cael y cyfle i adolygu a golygu eich atebion. Gallwch gadw copi o’r cais yr ydych yn ei anfon atom.

Argymhellwn eich bod chi’n cadw copi o’ch cais gorffenedig, rhag ofn bod angen i chi ei drafod â ni’n nes ymlaen.

Mae’r eitemau sydd wedi’u marcio â seren (*) yn ofynnol, and dim ond os ydych chi’n eu cwblhau y gallwch chi gyflwyno’r ffurflen hon
Y ffurflen gais

Cyn i chi ddechrau, bydd angen y wybodaeth hon arnoch ar gyfer yr adrannau canlynol:
Rhan un – manylion eich prosiect – bydd angen i chi ddweud wrthym:

Rydym wedi ysgrifennu llawer am yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu (a pheidio). Dylech ystyried hyn yn eich atebion.

Defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud wrthym:

1) Beth yw eich syniad prosiect arfaethedig?

Dylech ddweud wrthym:
  • am eich prosiect
  • sut mae eich prosiect yn bodloni ein blaenoriaethau
  • syniad o sut byddwch yn dyfarnu'r arian er mwyn cynnal eich prosiect
  • yr hyn rydych yn gobeithio ei newid – yn y tymor byr a’r hirdymor
  • sut ydych chi’n gwybod bod angen eich prosiect
  • sut mae’r gymuned wedi bod ynghlwm â llywio eich syniad
  • pam dyma’r amser cywir ar gyfer eich prosiect
  • am y pethau a fydd yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd eich prosiect yn llwyddiannus er enghraifft, mae cefnogaeth gennych gan eich Awdurdod Lleol neu mae cefnogaeth gynyddol gan eich cymuned.
2)  Sut ydych chi’n gweithio gydag eraill i gyflwyno eich prosiect?

Dylech chi ddweud wrthym: 
  • Am eich sefydliad.
  • Yr hyn rydych chi wedi’i brofi neu ei ddysgu sydd eich arwain at geisio am grant. 
  • Am eich cymunedau, sefydliadau neu grwpiau rydych chi’n gweithio gydag ar hyn o bryd (neu rheiny rydych chi’n gobeithio gweithio gydag). 
  • Pam chi, neu eich partneriaeth (os oes gennych) ydy’r lleoliad gorau i gyflwyno’r gwaith yma. 
  • Os oes gennych chi bartneriaeth, beth fydd eich partneriaid yn gwneud yn y prosiect yma? Os nad oes gennych chi bartneriaeth, ewch i’r cwestiwn nesaf. 
  • Sut byddwch yn rhannu eich dysgu gydag eich partneriaid (os oes gennych chi bartneriaid) gyda grwpiau, prosiectau a’r gymuned. 
3) Sut mae eich prosiect yn helpu cymunedau i weithredu yn erbyn newid hinsawdd?

 Dylech ddweud wrthym:
  • sut mae eich cymuned yn ysbrydoli pobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd
  • sut fydd eich prosiect yn effeithio ar gymunedau’n gadarnhaol – yn y tymor byr a’r hirdymor
  • sut fyddwch chi’n mynd i’r afael â rhwystrau cyfranogi i bobl a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli – er enghraifft, y rhai hynny sy’n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb, pobl anabl, pobl LHDTQ+, ffoaduriaid neu bobl sy’n ceisio lloches.
Rhan dau – gwybodaeth am y bobl y bydd y cyllid hwn yn eu cefnogi
Rhan tri – manylion eich sefydliad
Rhan pedwar – manylion y prif gyswllt – gan gynnwys dyddiad geni a chyfeiriad cartref
Rhan un – Manylion eich prosiect

Enw’r prosiect (Cam 1 o 6) 

 

Beth yw enw eich prosiect? 
Dylai enw’r prosiect fod yn syml a pherthnasol. *

Rhan un – Manylion eich prosiect


Lleoliad y prosiect (Cam 2 o 6)

Beth yw cod post eich prosiect?
Os bydd eich prosiect yn cael ei gynnal ar draws gwahanol leoliadau, defnyddiwch god post yr adeilad neu’r cyfeiriad lle bydd y rhan fwyaf o’r prosiect yn cael ei gynnal. Mae’n rhaid i chi roi’r cod post llawn.

Os nad ydych chi’n gwybod y cod post, gallwch ddefnyddio Darganfyddwr Cod Post y Post Brenhinol i geisio dod o hyd iddo.*
Dywedwch wrthym yr holl leoliadau lle bydd y prosiect yn cael ei gynnal
Yng ngeiriau eich hun, dywedwch wrthym yr holl leoliadau lle y byddwch chi’n cynnal y prosiect. Er enghraifft, ‘Belfast’ neu 'Llundain, Caint a Surrey’.*
Rhan un – Manylion eich prosiec

Swm ar gyfer y prosiect (Cam 3 o 6)


Faint o arian hoffech chi ei gael gennym?
Gallwch ofyn am uchafswm o £1.5 miliwn hyd at bum mlynedd. Os ydych chi’n gofyn i ni am ran o’r arian i gynnal eich prosiect yn unig, dim ond y swm sydd ei angen arnoch gennym ni sydd angen i chi ddweud wrthym amdano.
Peidiwch â defnyddio symbolau nac atalnodau. Felly er enghraifft, ysgrifennwch £10,000 fel hyn: 10000.00*

Hyd y prosiect (Cam 4 o 6)

Am ba mor hir y mae angen yr arian arnoch?
Gallwn ariannu prosiectau am hyd at 5 mlynedd. Os nad yw eich prosiect ar gyfer union nifer o flynyddoedd, talgrynnwch i fyny i’r flwyddyn agosaf. Er enghraifft, ar gyfer prosiect 18 mis, dewiswch 2 flynedd.*

Dyddiadau’r prosiect (Cam 5 o 6)

Byddwn ni’n gwneud penderfyniadau ar sail dreigl. Byddwn ni’n disgwyl i’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu o dan y rhaglen hon i ddechrau o fewn chwe mis ohonoch chi’n derbyn penderfyniad.
Ar ba ddyddiad y bydd eich prosiect yn dechrau?
Defnyddiwch y calendr yn y maes ateb i ddewis dyddiad, neu nodwch y dyddiad fel dd/mm/bbbb.*
Ar ba ddyddiad y bydd eich prosiect yn dod i ben?
Dylai eich prosiect fod rhwng 2 a 5 mlynedd o hyd. Os yw eich prosiect o hyd yn cael ei ddatblygu, mae’n bosibl y gallwn gynnig grant sy’n para am 12 i 18 mis.
Defnyddiwch y calendr yn y maes ateb i ddewis dyddiad, neu nodwch y dyddiad fel dd/mm/bbbb.*
Rhan un – Manylion eich prosiect

Syniad prosiect (Cam 6 o 6)

Beth yw eich syniad prosiect arfaethedig?
Dylech ddweud wrthym:
  • am eich prosiect
  • sut mae eich prosiect yn bodloni ein blaenoriaethau
  • Syniad o sut byddwch yn dyfarnu'r arian er mwyn cynnal eich prosiect
  • yr hyn rydych yn gobeithio ei newid – yn y tymor byr a’r hirdymor
  • sut rydych chi’n gwybod bod angen y prosiect
  • sut mae’r gymuned wedi bod ynghlwm â llywio eich syniad
  • pam dyma’r amser cywir ar gyfer eich prosiect
  • am y pethau a fydd yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd eich prosiect yn llwyddiannus er enghraifft, mae cefnogaeth gennych gan eich Awdurdod Lleol neu mae cefnogaeth gynyddol gan eich cymuned.
Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi’n defnyddio llai o eiriau.*
Sut ydych chi’n gweithio gydag eraill i gyflwyno eich prosiect?
Dylech chi ddweud wrthym:
  • Am eich sefydliad.
  • Yr hyn rydych chi wedi’i brofi neu ei ddysgu sydd eich arwain at geisio am grant. 
  • Am eich cymunedau, sefydliadau neu grwpiau rydych chi’n gweithio gydag ar hyn o bryd (neu rheiny rydych chi’n gobeithio gweithio gydag). 
  • Pam chi, neu eich partneriaeth (os oes gennych) ydy’r lleoliad gorau i gyflwyno’r gwaith yma. 
  • Os oes gennych chi bartneriaeth, beth fydd eich partneriaid yn gwneud yn y prosiect yma? Os nad oes gennych chi bartneriaeth, ewch i’r cwestiwn nesaf. 
  • Sut byddwch yn rhannu eich dysgu gydag eich partneriaid (os oes gennych chi bartneriaid) gyda grwpiau, prosiectau a’r gymuned. 
Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi’n defnyddio llai o eiriau.*
Sut mae eich prosiect yn helpu cymunedau i weithredu yn erbyn newid hinsawdd?
Dylech ddweud wrthym:
  • sut mae eich prosiect yn ysbrydoli pobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd
  • sut fydd eich prosiect yn effeithio ar gymunedau’n gadarnhaol – yn y tymor byr a’r hirdymor
  • sut fyddwch chi’n mynd i’r afael â rhwystrau cyfranogi i bobl a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli – er enghraifft, y rhai hynny sy’n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb, pobl anabl, pobl LHDTQ+ a ffoaduriaid neu bobl sy’n ceisio lloches.
Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Beth yw Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)?  (Cam 1 o 22)
Efallai eich bod wedi clywed am 'EDI' o'r blaen fel ‘tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant'. Credwn fod 'tegwch' yn well.

Gwyddom fod gan bobl fannau cychwyn gwahanol ac rydym am deilwra ein grantiau i osgoi unrhyw 'anghyfartaledd' - hynny yw, unrhyw ddiffyg tegwch.

Mae 'cydraddoldeb' yn ymwneud â thrin pobl yn yr un modd. Ond mae 'tegwch' yn ymwneud â bod yn deg. Os byddwn yn trin pawb yn yr un modd, ni fydd rhaglenni ariannu yn cyrraedd pobl mewn ffordd gyfartal neu deg.

‘Mae 'amrywiaeth' yn ymwneud â chynnwys gwahanol agweddau ar y gwahaniaethau rhwng pobl. Mae'r gwahaniaethau hyn yn cynnwys:
  • hil ac ethnigrwydd
  • ffydd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • anabledd
  • oedran
  • rhywedd
Mae 'cynhwysiant' yn ymwneud â helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau y gallant gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau
Pam rydym yn gofyn y cwestiynau hyn
Rydym am wella tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.

Ein nod yw helpu i greu diwylliant agored, lle mae pob barn yn cael ei hystyried. Mae hyn yn cynnwys barn y cymunedau rydym yn ceisio eu cyrraedd. Bydd hyn yn gwneud ein cymunedau a'n cymdeithas yn gryfach.

Mae angen i ni ddarganfod pwy rydych chi'n ceisio eu helpu a phwy sy’n gwneud y penderfyniadau, fel y gallwn ddeall pwy mae ein grantiau yn ei gyrraedd. Bydd yn ein helpu i lunio ein grantiau i fod yn decach.

Mae rhai o’r cwestiynau am y bobl sy’n arwain eich sefydliad neu grŵp. Os yw’n anodd ateb y cwestiynau hyn, byddwn yn rhoi’r cyfle i chi ddewis peidio â’u hateb.
Sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth
Dim ond os ydym yn cyrraedd yr holl bobl yr ydym yn ceisio eu cael y mae'r wybodaeth yn yr adran hon. Ni fyddwn yn defnyddio eich atebion i benderfynu a ydym yn dyfarnu grant i chi.

Efallai y byddwn yn defnyddio'r atebion hyn mewn gwybodaeth a gyhoeddir gennym am grantiau a ddyfernir, gan gynnwys ar wefannau eraill fel  360 Giving GrantNav. 
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Pwy sy’n buddio o’ch prosiect (Cam 2 o 22)
Ni fydd yr wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni yn yr adran hon yn dylanwadu ar ein penderfyniad ariannu. Byddwn hefyd yn ei defnyddio i ddweud wrth bobl am effaith ein hariannu a phwy mae’n eu cyrraedd.
A yw eich prosiect wedi’i anelu at grŵp penodol o bobl neu a yw’n agored i bawb?
Os yw o leiaf 75% neu fwy o'r bobl yr ydych yn eu cefnogi’n rhannu nodweddion mae eich prosiect ar gyfer grŵp penodol o bobl.

Efallai y bydd eich grŵp penodol yn rhannu mwy nag un nodwedd. Er enghraifft, os yw 80% o’r bobl rydych yn gweithio â nhw’n ffoaduriaid benywaidd, mae hyn yn golygu eich bod yn cefnogi grŵp penodol o bobl. Yn yr enghraifft hon, maen nhw’n rhannu dwy nodwedd - menywod a ffoaduriaid.

Gwyddom mai amcangyfrif yn unig y gall hyn fod. Byddai'n rhy anodd gweithio allan yn union, yn enwedig os yw’r prosiect yn newydd.

Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Elwa grwpiau penodol (Cam 3 o 22)

I bwy y mae eich prosiect?
Os daw 75% neu fwy o'r bobl sy'n cefnogi neu'n elwa o'ch prosiect o un grŵp penodol o bobl, dywedwch wrthym pwy ydyn nhw.
Os ydych chi’n dewis opsiwn, byddwn ni’n gofyn i chi ddweud mwy wrthym am y grŵp hwnnw.
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Cymunedau sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol (Cam 4 o 22)

Ar gyfer pa gymuned y mae eich prosiect?
Dewiswch un categori, os yw’n bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Cymunedau ffydd (Cam 5 o 22)


Ar gyfer pa gymuned ffydd y mae eich prosiect?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Pobl sy’n mudo (Cam 6 o 22)

Ar gyfer pa grŵp o bobl y mae eich prosiect?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
Pobl anabl (Cam 7 o 22)

Ar gyfer pa grŵp o bobl anabl y mae eich prosiect?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Pobl iau (Cam 8 o 22)

Ar gyfer pa grŵp oedran y mae eich prosiect?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Pobl LHDTQ+ 
(Cam 9 o 22)

Ar gyfer pa gymuned LHDTQ+ y mae eich prosiect?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Grwpiau penodol nad ydynt wedi'u cynnwys eisoes (Cam 10 o 22)

Ar gyfer pa grŵp penodol (nad ydych wedi’i gynnwys eisoes) y mae eich prosiect?
Mae enghreifftiau'n cynnwys: dynion a bechgyn, pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, gofalwyr, pobl sy'n gwella o gaethiwed alcohol, gweithwyr rhyw, a phobl nad Saesneg neu Gymraeg yw eu hiaith gyntaf neu sy'n cael problemau darllen.
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Y Gymuned Gymraeg (Cam 11 o 22) 

Faint o'r bobl a fydd yn elwa o'ch prosiect sy'n siarad Cymraeg? 
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Cymuned Gogledd Iwerddon (Cam 12 o 22)

Ar gyfer pa gymuned y mae eich prosiect?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Unrhyw grwpiau eraill (Cam 13 o 22)

Pa wybodaeth EDI ychwanegol yr hoffech ei chynnwys am y bobl y mae eich prosiect yn eu cefnogi? (Dewisol)
Dywedoch wrthym y bydd eich prosiect yn buddio:
  • cefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd arall
  • cefndir ethnig cymysg/lluosog arall
  • cefndir Asiaidd arall
  • cefndir ethnig arall
  • crefyddau a chredoau eraill
  • pobl eraill sy’n mudo
  • math arall o anabledd neu nam
  • pobl LHDTQ+ a disgrifir mewn ffordd arall

Dywedwch fwy wrthym am bwy ydyn nhw.
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Arweinyddiaeth y sefydliad (Cam 14 o 22)

Hoffem ddeall mwy am eich tîm arwain. Mae'r cwestiynau hyn yn ddewisol ond maen nhw’n ein helpu i ddeall mwy am y sefydliadau sy’n ymgeisio am gyllid. Byddant hefyd yn ein helpu i ddatblygu ein prosesau a’n strategaeth yn y dyfodol.

Ni fydd yr wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni yn yr adran hon yn dylanwadu ein penderfyniad ariannu.

A yw’r rhan fwyaf o’ch tîm arwain yn hunan-nodi fel eu bod yn perthyn i grŵp penodol o bobl?
Dywedwch wrthym ba grŵp penodol y maen nhw’n perthyn iddo os yw o leiaf:
  • 75% o’ch bwrdd ymddiriedolwyr neu bwyllgor rheoli’n rhannu un neu’n fwy o nodweddion
  • a 50% neu’n fwy o staff uwch yn rhannu un neu’n fwy o nodweddion
A yw arweinyddiaeth eich sefydliad yn hunan-adnabod fel unrhyw grŵp penodol?  *
Os ydych chi’n dewis opsiwn, byddwn yn gofyn i chi ddweud rhagor wrthym am y grŵp hwnnw.
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Cymunedau sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol (Cam 15 o 22)

Pa gymuned y mae eich tîm arwain yn rhan ohoni?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Cymunedau ffydd (Cam 16 o 22)

Pa gymuned ffydd y mae eich tîm arwain yn rhan ohoni?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Pobl sy’n mudo (Cam 17 o 22)

Pa grŵp o bobl sy’n mudo y mae eich tîm arwain yn rhan ohono?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Pobl anabl (Cam 18 o 22)

Pa grŵp o bobl anabl y mae eich tîm yn rhan ohono?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Pobl iau (Cam 19 o 22)

Pa grŵp oedran y mae eich tîm arwain yn rhan ohono?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Pobl LHDTQ+ (Cam 20 o 22)

Pa gymuned LHDTQ+ y mae eich tîm arwain yn rhan ohoni?
Dewiswch un categori, os yn bosibl*
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Grwpiau penodol nad ydynt wedi'u cynnwys eisoes (Cam 21 o 22)

Pa grŵp penodol (nad ydych wedi’i gynnwys eisoes) y mae eich tîm arwain yn rhan ohono?
Mae enghreifftiau'n cynnwys: dynion a bechgyn, pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, gofalwyr, pobl sy'n gwella o gaethiwed alcohol, gweithwyr rhyw, pobl nad Saesneg neu Gymraeg yw eu hiaith gyntaf neu sy'n cael problemau darllen.
Rhan dau - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Unrhyw grwpiau arwain eraill (Cam 22 o 22)

Pa wybodaeth EDI ychwanegol yr hoffech ei chynnwys am y bobl y mae eich prosiect yn eu cefnogi? (Dewisol)
Dywedoch wrthym fod arweinyddiaeth eich sefydliad yn hunan-nodi fel eu bod yn dod o:
  • cefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd arall
  • cefndir ethnig cymysg / lluosog arall
  • cefndir Asiaidd arall
  • cefndir ethnig arall
  • crefyddau a chredoau eraill
  • pobl eraill sy’n mudo
  • math arall o anabledd neu nam
  • Pobl LHDTQ+ a ddisgrifir mewn ffordd arall
Dywedwch ragor wrthym am bwy ydynt.
Rhan tri – Manylion eich sefydliad

Manylion eich sefydliad (Cam 1 o 3)

Beth yw enw cyfreithiol llawn eich sefydliad?
Mae’n rhaid dangos hwn ar eich dogfen lywodraethu. Gall eich dogfen lywodraethu gael ei enwi fel sawl peth, yn dibynnu ar y math o sefydliad yr ydych chi’n ymgeisio ar ei ran. Gall fod wedi’i enwi’n gyfansoddiad, gweithred ymddiriedolaeth, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, neu rywbeth hollol wahanol.
Efallai byddwch chi’n dod o hyd iddo ar wefan gofrestru, er enghraifft Tŷ'r Cwmnïau neu Gofrestr Elusennau.*
A yw eich sefydliad yn defnyddio enw gwahanol ar gyfer eich gwaith o ddydd i ddydd?
Dyma sut y gallech gael eich adnabod os nad ydych yn cael eich adnabod gan eich enw cyfreithiol yn unig (mae’r enw cyfreithiol ar eich dogfen lywodraethu neu wefan gofrestru).*

Beth yw prif gyfeiriad neu gyfeiriad cofrestredig eich sefydliad?
Nodwch y cyfeiriad llawn, gan gynnwys enw neu rif y tŷ a’r cod post isod.




Pryd gafodd eich sefydliad ei sefydlu?
Dyma’r dyddiad y gwnaeth eich sefydliad gychwyn ei statws cyfreithiol cyfredol. Os nad ydych chi’n gwybod yr union ddyddiad neu fis, rhowch ddyddiad bras.

Defnyddiwch y calendr yn y maes ateb i ddewis dyddiad, neu nodwch y dyddiad fel dd/mm/bbbb*


Rhan tri – Manylion eich sefydliad

Math o sefydliad (Cam 2 o 3)

Rhan tri – Manylion eich sefydliad

Rhifau cofrestru (Cam 3 o 3)

Os ydych chi’n elusen gofrestredig a/neu’n gwmni cofrestredig, ac mae gennych unrhyw gyfeirnodau neu rifau cofrestru, dywedwch wrthym beth ydynt:

Os nad oes gennych unrhyw gyfeirnodau neu rifau cofrestru, symudwch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.


Rhan pedwar – manylion cyswllt
Prif gyswllt

Manylion y prif gyswllt (Cam 1 o 1)
Rhowch fanylion cyswllt person y gallwn gysylltu ag ef petai gennym unrhyw gwestiynau. Y prif gyswllt fel arfer yw’r person sy’n cwblhau’r ffurflen, felly chi yw’r person hwnnw’n fwy na thebyg. 

Mae’n rhaid i’r prif gyswllt fod o’r sefydliad sy’n ymgeisio, ond nid oes rhaid iddynt gael rôl benodol.

Mae’n rhaid i’r person hwn fyw yn y DU.

Enw cyntaf

Mae angen eu henw cyfreithiol arnom i wirio eu hunaniaeth. Ni all hwn fod yn lysenw – neu’n fersiwn byr o’u henw. Os nad ydych yn rhoi hwn i ni, gall oedi eich cais.*

Dyddiad geni

Mae angen eu dyddiad geni arnom i’n helpu i wirio pwy ydynt. Os yw’n cael ei nodi’n anghywir, gallai oedi eich cais.

Defnyddiwch y calendr yn y maes atebion i ddewis dyddiad, neu nodwch y dyddiad fel dd/mm/bbbb




Cyfeiriad cartref

Mae angen eu cyfeiriad cartref arnom i’n helpu i gadarnhau pwy ydynt ac i gwblhau rhai o’n gwiriadau asesu, felly gwiriwch eich bod wedi’i nodi’n gywir. Os nad yw’n gywir, gallai hyn oedi eich cais.





Cyfeiriad cartref blaenorol






Eich datganiad



Gwyddom fod y mwyafrif helaeth o’r miloedd sy’n ymgeisio am ein cyllid yn ei ddefnyddio’n wirioneddol. Fodd bynnag, weithiau rydym yn derbyn ceisiadau twyllodrus ac felly mae dyletswydd gennym i gynnal gwiriadau ar unigolion mewn sefydliadau sy’n ymgeisio am grantiau. Bydd y wybodaeth bersonol yr ydym wedi’i chasglu gennych felly’n cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i ddilysu eich hunaniaeth. Os yw twyll yn cael ei ganfod, mae’n bosibl y bydd rhai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth yn cael eu gwrthod i chi.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gennym ni a’r asiantaethau atal twyll hyn, eich hawliau diogelu a sut i gysylltu â ni yn ein Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd llawn a gyhoeddir ar ein gwefan.

Cysylltwch â ni i ofyn am gopi caled trwy ffonio ein llinell gymorth ar 0345 410 2030, neu trwy ysgrifennu at Customer Services, The National Lottery Community Fund, 2 St James’ Gate, Newcastle upon Tyne, NE1 4BE.
Adolygu a chyflwyno
Nawr rydych wedi cwblhau eich ffurflen gais, gwiriwch eich atebion cyn i chi ei hanfon
Unwaith i chi glicio’r botwm ‘Adolygu’ isod, byddwch yn dod i dudalen lle y gallwch chi wirio eich holl atebion.
Cliciwch ‘gwirio’ i newid unrhyw un o’ch atebion
Os hoffech chi wneud newidiadau i unrhyw un o’r atebion, cliciwch ‘Gwirio’. Bydd hyn yn mynd â chi’n ôl i’r ffurflen gais fel y gallwch chi wneud newidiadau.
Dyma eich cyfle olaf i gadw copi o’ch ffurflen
Os nad ydych chi’n cadw copi o’ch ffurflen i’ch cyfrifiadur nawr, ni fyddwch chi’n gallu ei chyrchu eto.
Ar ôl i chi gwblhau eich ffurflen, ni fyddwch chi’n gallu:
  • derbyn copi o’ch ffurflen wedi’i chwblhau
  • defnyddio’r ddolen ‘Ailgydio â ffurflen a gadwyd yn flaenorol’ eto
  • cyrchu unrhyw un o’ch atebion
Sut i gadw copi o’ch ffurflen gais
  1. Dewiswch yr opsiwn ‘Print this page’ ar waelod y sgrîn adolygu. Dylai hyn agor tudalen newydd ar eich sgrîn
  2. Dewiswch ‘Field’ neu “Destination”.
  3. Bydd cwymplen yn rhoi dewis i chi naill ai ‘Print to PDF’, neu ‘Save to PDF’.
  4. Dewiswch ‘Save to PDF’
  5. Bydd hyn yn creu fersiwn PDF o’ch atebion y gallwch ei gadw ar eich cyfrifiadur. Rydym yn eich annog i gadw copi, yn hytrach nag argraffu lle bo hynny’n bosibl.
Unwaith i chi gadw copi o’ch ffurflen, dewiswch y botwm ‘Confirm’ ar waelod y dudalen i’w chyflwyno.
Lleihau eich effaith amgylcheddol

Ewch i’n gwefan i gael awgrymiadau am sut y gall eich sefydliad leihau ei effaith amgylcheddol. I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, gallwch hefyd ymweld â’n Hyb Hinsawdd.